Cyngor Mynydda Prydain yw’r corff sy’n cynrychioli cerddwyr
mynyddoedd, dringwyr a mynyddwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n
lobio ac yn cynghori’r llywodraeth ar ystod o faterion pwysig
fel mynediad, risg a chyfrifoldeb, a newidiadau i ddeddfwriaeth.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd sy’n cofrestru ar gyfer cynlluniau
hyfforddi a gydlynir gan gorff Hyfforddi Arweinwyr Mynydda Lloegr
neu gorff Hyfforddi Arweinwyr Mynydda Cymru fod yn aelodau o Gyngor
Mynydda Prydain? Pam felly?
Mae Hyfforddi Arweinwyr Mynydda a Chyngor Mynydda Prydain yn gweithio’n
agos gyda’i gilydd mewn sawl maes yng nghyswllt ymarfer mynydda
da ar gyfer unigolion, arweinwyr a grwpiau. Sefydlwyd Cyngor Mynydda
Prydain yn 1944 ac, yn 1964, sefydlodd y Cyngor Hyfforddi Arweinwyr
Mynydda fel corff dyfarnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau mynydda.
Ar lefel eang, mae Hyfforddi Arweinwyr Mynydda yn rhedeg cynlluniau
hyfforddi ffurfiol ac mae’r Cyngor Mynydda yn darparu cyngor
ac arbenigedd ar gyfer gweithgareddau mwy anffurfiol fel clybiau
myfyrwyr, clybiau mynydda a chyfranogiad pobl ifanc.
Mewn nifer o chwaraeon eraill, mae’r Corff Cynrychioli a’r
Corff Dyfarnu (ar gyfer hyfforddi) yr un fath, ond mae’r Cyngor
Mynydda a Hyfforddi Arweinwyr Mynydda, er bod ganddynt gysylltiad
agos, yn ddau gorff ar wahân. Dylid nodi bod y Cyngor Mynydda
ond yn derbyn ffi ar adeg cofrestru, gan ddibynnu ar gryfder eu gwaith
a’u hymrwymiad i gerddwyr, dringwyr a mynyddwyr ym mhob man
i ddarbwyllo ymgeiswyr i adnewyddu eu haelodaeth o’r Cyngor
o un flwyddyn i’r llall.
Mynediad a Chadwraeth
Mae sicrhau mynediad at lefydd gwyllt Prydain yn hanfodol i gerddwyr
mynyddoedd, dringwyr a mynyddwyr fel y medrant gynnal eu diddordeb
yn gynaliadwy. Mae Cyngor Mynydda Prydain yn cyflogi nifer o staff
mynediad a chadwraeth ac mae ganddo rwydwaith eang o wirfoddolwyr
sy’n gweithio’n agos gyda rheolwr tir i negodi, sicrhau
a chynnal mynediad at ein mynyddoedd, gweundir a chlogwyni.
Diogelwch a thechnegol
Mae safonau uchel o ddiogelwch yn holl bwysig ar gyfer pob agwedd
ar waith yn yr awyr agored. Mae’r Cyngor Mynydda yn cynnal
ymchwiliadau pan fydd offer yn methu, ac yn chwarae rôl bwysig
o fewn y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Dringo a Mynydda (UIAA)
i osod safonau ar gyfer offer dringo a mynydda. Mae’r Cyngor
hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad, ac yn cynhyrchu ystod eang
o ddeunydd diogelwch a thechnegol gan gynnwys posteri, fideos, hyfforddiant,
adroddiadau, taflenni, llawlyfrau, darlithoedd a seminarau.
Gwybodaeth
Beth bynnag y dymunwch ei wybod am gerdded mynyddoedd, dringo neu
fynydda, gall y Cyngor Mynydda helpu. Mae ganddo lyfrgell helaeth
yn ogystal â chronfeydd data ar gyfyngiadau mynediad, dringo
waliau, cytiau, clybiau a llawer mwy (www.thebmc.co.uk). Gwasanaeth
gwybodaeth y Cyngor Mynydda yw’r adnodd mwyaf cynhwysfawr ar
gyfer defnyddwyr yr awyr agored yn y Deyrnas Unedig, ac mae llawer
ohono’n ddi-dâl i’w aelodau. Mae’r Cyngor
Mynydda yn cadw llygad parhaus ar ddatblygiad ym maes dringo, gan
ei bod yn hynod bwysig bod dringwyr newydd yn ymwybodol o’r
ochr foesegol ac arferion gorau. Mae yr un peth yn wir am gerddwyr
mynyddoedd a mynyddwyr newydd nad ydynt efallai yn gwybod am yr ecosystemau
sensitif ar hyd a lled ucheldiroedd Prydain, er enghraifft.
Gweithio gyda’n gilydd
Mae gan Gyngor Mynydda Prydain strwythur democrataidd ac mae’n
gweithio ar ran cerddwyr mynyddoedd, dringwyr a mynyddwyr ym mhob
man. Cynhelir cyfarfodydd ardal rheolaidd sy’n agored i unrhyw
aelod eu mynychu – mae manylion ar gael o dan y pennawd ‘getting
involved’ ar wefan y Cyngor ac yn y cylchgrawn Summit sydd
am ddim i aelodau.
Yswiriant
Nid yw cofrestru ar gwrs hyfforddiant yn cynnwys yswiriant.
Mae aelodau unigol o’r Cyngor Mynydda wedi eu diogelu gan Yswiriant Atebolrwydd
Sifil ac Yswiriant Anabledd Damweiniau Personol ar gyfer cerdded
mynyddoedd, dringo a mynydda. Mae’r yswiriant hwn yn diogelu
ymgeiswyr yn ystod hyfforddiant a hyd yn oed tra’n ennill profiad
perthnasol dros y cyfnod atgyfnerthu/llyfr log (er nad yw’n
cynnwys ymgeiswyr sy’n masnachu o dan enw cwmni).
Yn ogystal â gwybod beth y mae’r Cyngor Mynydda yn ei
wneud ar eich rhan, mae’n bwysig gwybod beth y gallwch chi
ei wneud dros y Cyngor a’r holl bobl eraill sy’n rhannu
ein mynyddoedd a’n clogwyni. Mae’r Cyngor Mynydda yn
dibynnu’n llwyr bron ar wirfoddolwyr i awgrymu, tywys a gweithredu
ei waith pwysig – pwy well i fod ar eich corff cynrychioli
na’r bobl sy’n gweithio a chwarae yn y mynyddoedd? Nid
yw eistedd mewn cyfarfodydd at ddant pawb, ond mae amryw byd o ffyrdd
eraill y gallwch helpu.
Mae eich rheidrwydd unwaith yn unig i ymaelodi yn hanfodol
i sicrhau parhad dringo a cherdded fel y mae ar hyn o bryd – mae y rhan
fwyaf ohonom yn teimlo bod hyn yn bris bach i’w dalu.
British Mountaineering Council
177-179 Burton Road
Manchester
M20 2BB
Telephone 0870 010 4878
Fax 0161 445 4500
e-mail office@thebmc.co.uk
Website www.thebmc.co.uk
|