Mae mynyddoedd y DU yn ddiarffordd, yn dechnegol ac yn agored i
dywydd garw ac annarogan. Mae hyn yn eu gwneud yn lle peryglus i
gerddwyr sy’n ddechreuwyr ac mae’r ML wedi ei gynllunio
i gynorthwyo arweinwyr cyfrifol sy’n dymuno gweithredu ar dir
mynyddig mewn amodau hafaidd. Mae cyrsiau ML yn datblygu eich sgiliau
rheoli gr_p, y gallu i lywio ym mhob amodau, y gallu i ddelio gyda
pheryglon mynydd (yn cynnwys tir serth) ac yn cynyddu eich ymwybyddiaeth
o faterion amgylcheddol. Mae elfen o gyrch i’r cynllun.
-
Bod yn 18 mlwydd oed o leiaf ac isafswm
o 12 mis o brofiad o gerdded mynyddoedd
-
Aelodaeth o glwb mynydda
cyswllt neu gyngor mynydda (gallwch ymuno ar raddfa ostyngedig
gan ddefnyddio’r ffurflen ar dudalen 10).
-
Diddordeb mewn
arwain grwpiau.
Llawlyfr Cymhwyso Arweinwyr Mynydd (pdf.)
Hyfforddiant
Er mwyn mynychu cwrs hyfforddiant mae’n rhaid i chi fod wedi cofnodi
o leiaf 20 diwrnod mynydda o ansawdd. Mae cyrsiau hyfforddiant yn isafswm o
60 awr o gyswllt, (fel arfer yn 6 diwrnod olynol neu gyfres o benwythnosau).
Mae darparwyr yn rhedeg eu cyrsiau yn ardaloedd mynyddig y DU ac yn ystod y
rhan fwyaf o’r flwyddyn. Os oes gennych lefel hynod o uchel o brofiad
gallwch wneud cais i gael eich eithrio o’r cwrs hyfforddi
Atgyfnerthu
Ar ddiwedd y cwrs bydd y staff hyfforddi yn datblygu gyda chi gynllun
gweithredu personol a fydd yn eich arwain drwy’r cam hwn
o’r cynllun (fel arfer yn gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf).
Asesiad
Mae o leiaf 60 awr o amser cyswllt i asesiadau (5 – 6 diwrnod yn olynol
neu wedi eu rhannu i elfennau tri diwrnod.) Mae’n rhaid i chi fod wedi
cwblhau o leiaf 40 diwrnod mynydda o ansawdd. Mae’n rhaid i chi fod wedi
cwblhau cwrs hyfforddi ML neu fod wedi ennill yr hawl i gael eich eithrio o
hyfforddiant yn ogystal â bod â chymhwyster Cymorth Cyntaf dilys.
Diwrnodiau Mynydda o Ansawdd
Yn nhermau profiad, mae ansawdd diwrnod mynydda yn gorwedd gydag
ystod o ffactorau sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at
ddatblygiad ac aeddfedrwydd person fel mynyddwr cyffredinol. Fel
arfer byddai rhai os nad y cyfan o’r meini prawf yma yn cael
eu cwrdd
- Mae’r unigolyn yn cymryd rhan yn y
cynllunio a’r arwain.
- Gellir dod ar draws amgylchiadau gwael
ac mae angen sgiliau dod o hyd i’r ffordd y tu hwnt i lwybrau
sydd wedi eu marcio.
- Mae’n rhaid i’r profiad fod ar
dir ac mewn tywydd sy’n
cymharu â’r DU a bryniau Iwerddon.
- Rhoddir sylw i
ddiogelwch, cynyddir gwybodaeth a chaiff sgiliau eu hymarfer.
- Mae’r
daith am bum awr neu fwy.
- Mae’n fwy na thebyg y bydd diwrnod
o’r fath yn ymwneud
ag esgyn mynydd sylweddol
Llawlyfr Cymhwyso Arweinwyr Mynydd pdf.
Ffurflen Gofrestru ac Archebu Cyhoeddiadau 2008 pdf.
|