corner corner
MLTW Mountain Leader Training Wales
 

Gwobr Rhediad Sengl (SPA) - Manylion Pellach

Gwobr Rhediad Sengl (SPA)Mae’r wobr hon yn caniatáu i’r rhai sy’n ei dal i oruchwylio pobl ar greigiau rhediad sengl a waliau dringo. I ennill y wobr hon rydych angen mwy na dim ond sgiliau dringo personol da. Bydd ein Darparwyr Cwrs sydd wedi eu cymeradwyo yn eich dysgu chi am reolaeth ddiogel o grwp, dan do ac yn yr awyr agored, ymddygiad clogwyn, cyfrifoldebau amgylcheddol a mwy. Byddwch yn dysgu sut i ddod yn oruchwyliwr effeithiol, gan annog eraill i fwynhau eu dringo yn ddiogel, yn ogystal â gwella rhywfaint ar eich sgiliau dringo personol.

PROSBECTWS

  • 1.1 CYFLWYNIAD
  • 1.2 YSTOD Y CYNLLUN
  • 1.3 CAMAU YN Y CYNLLUN
  • 1.4 COFRESTRU
  • 1.5 HYFFORDDIANT
  • 1.6 LLYFR COFNODI
  • 1.7 CYFNOD ATGYFNERTHU
  • 1.8 ASESU
  • 1.9 EITHRIO
  • 1.10 DRINGFEYDD RHEDIAD SENGL
  • 1.11 CYFLE CYFARTAL
  • 1.12 CYMORTH CYNTAF
  • 1.13 TREFN APELIO


MAES LLAFUR

  • 2.1 CYMHWYSTER TECHNEGOL
  • 2.2 YR AMGYLCHEDD DRINGO
  • 2.3 GORUCHWYLIAETH

 


PROSBECTWS

1.1 CYFLWYNIAD
Yn y blynyddoedd diweddar mae nifer y grwpiau sy’n mwynhau dringo ac abseilio ar frigiadau, creigiau, chwareli a waliau dringo wedi cynyddu. Mae’r UKMTB a’i sefydliadau sy’n aelodau yn ymorol bod safon uchel o oruchwyliaeth yn parhau, fel bod mwynhad a diogelwch yn cael eu hyrwyddo heb gyfaddawdu dringo na chyfranogiad eraill sy’n defnyddio creigiau neu waliau. Mae safon uchel o oruchwyliaeth a threfn yn cael eu cyflawni orau yn sgîl profiad, rhinweddau personol, hyfforddiant a dilysiad.

Lluniwyd y cynllun i ddarparu lefel sylfaenol o gymhwysedd i’r rheiny sydd â chyfrifoldeb yn ystod gweithgareddau dringo rhediad sengl. Er bod y wobr yn cynnwys cymhwysedd personol nid yw wedi’i llunio ar gyfer hynny, ac ni ddylid ei defnyddio fel unai gofyniad neu briodoldeb ar gyfer unigolion sy’n dymuno dringo waliau neu greigiau.

 

 

1.2 YSTOD Y CYNLLUN
Nid yw’r cynllun ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb yn ystod gweithgareddau dringo craig rhediad sengl. Yn bennaf mae’n ymwneud ag arfer da, sy’n arwain at fwynhad didramgwydd a diogel o’r gweithgaredd. Nid yw cwblhau’r cwrs hyfforddi yn unig, heb ddilyn cwrs asesu yn gymhwyster ynddo’i hun, er fe all fod o gryn fudd i’r unigolyn sydd dan hyfforddiant.
Mae’n ddilys yn y DU a’r Iwerddon (Canllawiau Cenedlaethol UKMTB 1995) ac fe’i cydnabyddir gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur. Nid yw cwblhau’r cwrs hyfforddi yn unig, heb ddilyn cwrs asesu yn gymhwyster ynddo’i hun, er fe all fod o gryn fudd i’r ymgeisydd.
At ddibenion y cynllun hwn, llwybr rhediad sengl yw un sy’n: cael ei dringo heb safleoedd canolraddol; a gaiff ei disgrifio fel rhediad sengl yn yr arweinlyfr; caniatáu myfyrwyr i gael eu gostwng i’r ddaear bob amser; ddim yn dibynnu ar y llanw; ddim yn ddifrifol ac sydd gydag ychydig o berygl bwriadol a ddim yn cyflwyno unrhyw anawsterau wrth ddringo ato neu oddi wrtho (megis darganfod y llwybr, sgramblo neu gyfeiriadu). Os ydych yn amau unrhyw leoliad arbennig yna aelod o’r Gymdeithas Hyfforddwyr Mynydda (Association of Mountaineering Instructors) neu Gymdeithas Brydeinig Tywyswyr Mynydd (British Association of Mountain Guides) yw’r unigolyn perthnasol i ofyn am gyngor.
Dyletswydd y cyflogwr neu’r awdurdod sy’n trefnu yw penderfynu a oes gan arweinydd y nodweddion personol hynny sy’n angenrheidiol er mwyn cymryd cyfrifoldeb dros bobl ifanc a dechreuwyr. Cyfuniad o sgiliau technegol, profiad helaeth a rhinweddau personol sy’n ffurfio’r sylfaen i oruchwyliaeth effeithiol. Mae’r cynllun hwn yn asesu sgiliau technegol a phrofiad; rhaid i’r cyflogwr neu’r awdurdod sy’n trefnu, fesur a phwyso’r rhinweddau personol.

Nid yw’r cynllun yn cynnwys:

  • sgiliau mynydda cyffredin, megis y rhai sydd eu hangen i ddynesu at, neu adael creigiau mynyddig neu weundiroedd
  • sgiliau dringo creigiau aml-rediad, dysgu arwain neu eu goruchwylio (mae'r rhain yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Hyfforddwr Mynydd)
  • mynediad at glogwyni sydd ar yr arfordir, neu unrhyw leoliad lle nad yw dianc yn hawdd, mesur a phwyso rhinweddau personol ymgeisydd

 

 

1.3 CAMAU YN Y CYNLLUN
Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • profiad personol o ddringo cyn cofrestru
  • cofrestru, ymuno â chyngor mynydda a derbyn llyfr cofnodi
  • isafswm o ddau ddiwrnod hyfforddi ac asesu
  • dau ddiwrnod o gwrs asesu
  • nodi profiad cyson yn y llyfr cofnodi

 

 

1.4 COFRESTRU
Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cofrestru â’r Wobr:

  • fod â diddordeb gwirioneddol mewn dringo a goruchwylio grwpiau ar greigiau rhediad sengl
  • fod ag o leiaf ddeuddeg mis o brofiad mewn dringo creigiau, ac wedi dringo o leiaf 20 o ddringfeydd creigiau sydd wedi eu graddio, dylai rhai ohonynt fod ar raddfa Galed
  • fod ddim iau na 18 mlwydd oed ar ddyddiad y cofrestru
  • fod yn aelod unigol neu’n aelod o glwb Cyngor Mynydda


Wedi derbyn y ffurflen gofrestru a’r tâl perthnasol, bydd y bwrdd hyfforddi cenedlaethol yn rhoi llyfr cofnodi. Bydd manylion personol yr ymgeisydd yn cael eu cadw gan yr UKMTB a bydd cynnydd yn ystod y cynllun yn cael ei gofnodi ar Fas Data Hyfforddiant Mynydd Cenedlaethol.

 

 

1.5 HYFFORDDIANT
Cyn mynychu cwrs hyfforddiant, rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru â’r Wobr Rhediad Sengl (SPA) (Gwelwch 4 uchod)
Mae’r cyrsiau hyfforddiant yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr cyrsiau sydd wedi’u cymeradwyo, ac maent yn para o leiaf ddau ddiwrnod, ac yn cynnwys sesiwn gyda’r nos (20 awr o amser cyswllt). Bydd gan y cwrs hyfforddiant isafswm o bedwar ymgeisydd yn bresennol, ac uchafswm o wyth. Uchafswm cyfradd yr hyfforddwr/ ymgeisydd yw 1:4. Mae gan gyrsiau mwy, fuddiannau deuol: mae profiadau amrywiol ymgeiswyr yn galluogi unigolyn i gael gwell cyfle o weld sut mae eu sgiliau personol yn cymharu, ac maent hefyd yn derbyn barn dau hyfforddwr. Mae rhestr o’r holl ddarparwyr sydd wedi eu cymeradwyo ar gael gan y Byrddau Hyfforddi.

Mae’r cwrs hyfforddiant ar gyfer darpar arweinwyr, ac yn cymryd yn ganiataol bod gan yr ymgeisydd lefel sylfaenol o gymhwysedd fel rhywun sy’n dringo creigiau a phrofiad o arwain dringfeydd (Gwelwch Atodiad III). Bydd yn rhoi pwyslais ar y sgiliau hynny y byddai ymgeisydd, o bosibl, yn eu cael yn anodd eu dysgu heb gymorth arbenigol. Efallai na fydd ambell agwedd o’r maes llafur yn cael ei gynnwys yn y cwrs hyfforddi, a disgwylir i ymgeiswyr ddelio â rhain eu hunain.

Bydd y Cyfarwyddwr Hyfforddi yn rhoi sylwadau llafar i bob ymgeisydd gan grybwyll hyn ar dudalen berthnasol yn y llyfr cofnodi, ynghyd â sylwadau am y rhaglen, creigiau a’r waliau a ddefnyddir a’r amodau a wynebir. Bydd yr ymgeiswyr yn derbyn awgrymiadau personol ar gyfer y cyfnod atgyfnerthu. Nid yw’r cwrs hyfforddiant yn cynnwys unrhyw adroddiadau ysgrifenedig yn ymwneud â pherfformiad neu safon ymgeiswyr. Bydd wynebddalen y llyfr cofnodi yn cael ei ardystio ar ôl y cwrs hyfforddi, a hynny gyda sticer wedi ei gymeradwyo. Bydd hwn yn dangos y dyddiad a rhif darparwr y cwrs sy’n arbennig i’ch hyfforddwr. Mewn amgylchiadau arbennig, efallai y byddai’n bosibl cofrestru ar y cwrs, neu’n union wedyn, ond mae’n rhaid i’r hyfforddwr gyflwyno adroddiad i’r Bwrdd Hyfforddi gan gynnwys holl fanylion yr ymgeiswyr sydd wedi cofrestru, a hynny o fewn 30 diwrnod.

Anogir ymgeiswyr i ddefnyddio’r rhestr nodi sgiliau yn y llyfr cofnodi i werthuso’r sgiliau sydd ganddynt ac i gynllunio, a hynny gyda’u hyfforddwyr, y llwybr penodol maent am ei ddilyn tuag at yr asesiad.

Mae’r Byrddau yn cynnal cysylltiad agos gyda phob darparwr, a hynny yn sgîl yr adroddiadau a gyflwynir wedi pob cwrs. Yn ogystal, mae gennym raglen dreigl o ymweliadau â chyrsiau ac efallai y byddwch yn cwrdd â chymedrolwr ar eich cwrs. Nid yn unig cynnal cydraddoldeb rhwng darparwyr a wna’r ymweliadau hyn, ond hefyd maent yn darparu cysylltiad rhyngoch chi a’r Byrddau.

Dylid nodi pob profiad mae ymgeisydd yn ei ennill yn y llyfr cofnodi. Dylai’r hyn a nodir fod yn gryno ac yn hawdd ei ddarllen, gan gynnwys yr holl brofiadau o ddringo creigiau ac unrhyw brofiad perthnasol arall.

 

 

1.6 LLYFR COFNODI
Mae’r llyfr cofnodi wedi’i rannu i bum rhan:

  • Profiad cyn hyfforddiant
  • Cwrs hyfforddi
  • Cyfnod atgyfnerthu
  • Cwrs asesu
  • Profiad wedi’r asesu

Mae’r llyfr cofnodi wedi’i lunio i’ch helpu chi i ddangos eich profiad blaenorol i eraill. Os wnewch chi ei gwblhau cyn y cwrs hyfforddi rydych yn galluogi i’r hyfforddwyr drafod eich anghenion hyfforddi penodol, a chytuno pa feysydd o’r maes llafur y byddwch angen ganolbwyntio arno cyn gwneud asesiad. Ychydig iawn ohonom all gofio pob manylyn am bob dringfa rydym wedi’i wneud, ond nid yw hyn yn rheswm i beidio â defnyddio’r llyfr cofnodi. Rhestrwch enghreifftiau o’r amrywiaeth o brofiadau yr ydych wedi eu hennill gan roi manylion yngl_n â’r dyddiau allan mwyaf arbennig (neu gyffrous). Nid oes raid i drydydd person gadarnhau’r manylion a roddwch, ond bydd yn llunio sylfaen i’r drafodaeth yn yr hyfforddiant a’r asesiad.

 

 

1.7 CYFNOD ATGYFNERTHU
Yn gyffredinol bydd ymgeiswyr yn gweld llawer o syniadau a thechnegau newydd yn ystod y cyfnod hyfforddiant a byddant felly angen ychydig amser i ymarfer a gwerthuso’r rhain cyn yr asesiad. Yn ystod y cyfnod atgyfnerthu hwn, cynghorir ymgeiswyr i ddringo mewn amrediad mor eang o leoedd ag sy’n bosibl, fel unigolyn ac wrth gynorthwyo i arolygu eraill. Mae’r UKMTB yn cymeradwyo y dylai pob ymgeisydd ar wahân i’r ymgeiswyr mwyaf profiadol ganiatáu lleiafswm o 6 mis rhwng y cyfnod hyfforddi a’r asesiad. Nid oes cyfyngiad amser ar hyn o bryd ar ddilysrwydd cwrs hyfforddi a gall rhai ymgeiswyr gymryd nifer o flynyddoedd i gwblhau’r wobr.

 

 

1.8 ASESIAD
Cyn mynychu cwrs asesu rhaid i ymgeiswyr:

  • fod wedi cofrestru
  • fod wedi mynychu cwrs hyfforddiant
  • fod wedi ennill profiad pellach (gweler Atodiad III)
  • fod yn hyddysg wrth ddefnyddio waliau dringo
  • fod yn arwain dringfeydd graddfa Caled yn alluog
  • fod â Thystysgrif Cymorth Cyntaf Ddilys


Yn ystod y cwrs asesu sy’n para am ddau ddiwrnod ac sy’n cynnwys sesiynau gyda’r nos, bydd ymgeiswyr yn cael eu profi yn unol ag anghenion y maes llafur. Mae’r cyfnod asesu yn cymryd ugain awr (yn aml ar benwythnos dwys) ac mae’n cael ei redeg gan ddarparwr cwrs cydnabyddedig sydd un ai yn Hyfforddwr Mynydd neu’n Dywysydd Mynydd. Mae rhestr o’r holl ddarparwyr cydnabyddedig ar gael gan y Byrddau Hyfforddi.

Mae aseswyr yn gweithio ar gyfradd o 1:4 (neu lai). Gall maint y cwrs cyfan amrywio o ddau ymgeisydd i wyth. Mae gan gyrsiau mwy, fuddiannau deuol; mae profiad amrywiol yr ymgeiswyr yn galluogi unigolyn i gael gwell cyfle i weld sut mae’i sgiliau ef/hi yn cymharu, ac mae’n sicrhau eich bod yn derbyn barn dau aseswr.
Bydd y Cyfarwyddwr Asesu yn ardystio llyfr cofnodi mewn un o dair ffordd:

LLWYDDO: lle mae gwybodaeth foddhaol a dyfalbarhad efo’r maes llafur a’r profiad a’r nodweddion angenrheidiol wedi’u harddangos

GOHIRIO: lle mae’r perfformiad yn gyffredinol i fyny â’r safon ond ni chyhoeddwyd medrusrwydd mewn un agwedd o’r maes llafur. Bydd angen ailasesiad undydd.

METHU: lle'r oedd y perfformiad yn gyffredinol wan, neu lle na ddangoswyd y profiad a’r nodweddion angenrheidiol. Cymeradwyir hyfforddiant pellach cyn gellir cynnal ail-asesiad cyfan.

Ym mhob achos trafodir y canlyniad gyda chi ac fe gofnodir hyn yn eich llyfr cofnodi (rhoddir y dudalen i mewn gan y darparwr cwrs). Efallai y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn nodiadau byr ar y dudalen hon, ond bydd ymgeiswyr sy’n gohirio neu’n methu yn derbyn adborth ysgrifenedig penodol. Bydd hyn yn cynnwys y rheswm am y canlyniad, yr argymhellion ar y profiad ychwanegol sydd ei angen a manylion ar gyfer fformat yr ailasesu sydd i ddilyn.

Wrth ystyried penderfyniad yr aseswyr, gofynnir i’r ymgeiswyr wrando ar holl elfennau'r cyfweliad terfynol a lle bo’n bosibl lleisio unrhyw bryderon yr adeg honno. Os, ar ôl meddwl, nad yw’r drafodaeth a’r adroddiad ysgrifenedig yn ffitio eich argraff o’r asesiad a’ch perfformiad, yna cysylltwch â’r darparwr cwrs am eglurhad pellach, yn ysgrifenedig os bydd angen.

 

 

1.9 EITHRIO
Gall dringwyr profiadol sydd â phrofiad sylweddol yn barod o arolygu grwpiau ar glogwyni rhediad sengl a waliau dringo ymgeisio i Ysgrifennydd eu Bwrdd i gael eu heithrio o fynychu cwrs hyfforddi. Nid oes yna eithrio oddi wrth asesiad.
Cyn gwneud cais am eithrio, dylai ymgeiswyr ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Nid cwrs dringo yw’r cwrs hyfforddi, ond mae’n cyflwyno ymgeiswyr i’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyno pobl sy’n newydd i ddringo rhediad sengl.
  • Mae’n cynnwys deunydd a all fod yn anghyfarwydd i ddringwyr profiadol hyd yn oed.
  • Mae’n ffaith fod eithrio o gwrs hyfforddi yn cynyddu’r risg o fethiant wrth gael asesiad
  • Rhaid i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am eithrio:
  • fod wedi cofrestru gyda’r cynllun
  • gwblhau ffurflen cais eithrio
  • gyflwyno llyfr cofnodi wedi’i gwblhau gyda’r ffurflen gais eithrio a’r ffi i’w Bwrdd Hyfforddi lle maent wedi cofrestru (mae ffurflen a manylion y ffioedd ar gael wrth ofyn i MLTB, NIMTB, SMLTB a WMLTB)

 

 

1.10 DRINGFEYDD RHEDIAD SENGL
Ar gyfer dibenion y cynllun hwn, llwybr dringo craig rhediad sengl yw un sy’n

  • l cael ei dringo heb safleoedd canolraddol
  • l a gaiff ei disgrifio fel rhediad sengl yn yr arweinlyfr
  • l caniatáu dringwyr i gael eu gostwng i’r ddaear bob amser
  • l ddim yn dibynnu ar y llanw
  • l ddim yn ddifrifol ac sydd gydag ychydig o berygl bwriadol ynddo
  • l ddim yn cyflwyno unrhyw anawsterau wrth ddringo ato neu oddi wrtho, fel darganfod y ffordd, sgramblo neu gyfeiriadu.

 

 

1.11 CYFLEOEDD CYFARTAL
Mae’r Byrddau Hyfforddi wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb sy’n cymryd rhan mewn dringo a mynydda. Dylai ymgeiswyr, hyfforddwyr ac aseswyr fynegi agwedd gadarnhaol tuag at gyfleoedd cyfartal a gweithredu fel model rôl gadarnhaol.

 

1.12 CYMORTH CYNTAF
Ar adeg yr asesiad, dylech gyflwyno tystysgrif cymorth cyntaf ddilys. Mae’r UKMTB yn cydnabod tystysgrifau a gyhoeddir gan y Groes Goch Brydeinig, Ambiwlans Sant Ioan, Ambiwlans Sant Andreas a darparwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan HSE, lle mae’r cwrs yn cynnwys lleiafswm o 16 awr o amser cysylltu â chydran asesu. Gellir cynnig unrhyw dystysgrif neu gymhwyster amgen a ddelir yn ei le os ceir cymeradwyaeth Ysgrifennydd eich bwrdd hyfforddi. Canlyniad methiant i gyflwyno tystysgrif cymorth cyntaf ddilys fydd gohiriad.

 

 

1.13 TREFN APELIO
Mae’r Byrddau Hyfforddi wedi sefydlu trefn apelio a weithredir yn y drefn ganlynol:

  • dialog rhwng yr ymgeisydd a darparwr y cwrs i sefydlu’r rhesymau
    dros y penderfyniad a’r argymhellion dilynol cyn ail-asesu
  • cysylltu gyda Swyddogion y Bwrdd Hyfforddi ar gyfer trafodaeth
    anffurfiol ac eglurhad ychwanegol
  • ysgrifennu at Swyddogion y Bwrdd Hyfforddi gyda manylion eich
    apêl. Yna fe fyddan nhw’n gofyn i ddarparwr y cwrs i ymateb yn
    ysgrifenedig a chyflenwi unrhyw waith papur gwreiddiol. Bydd y
    swyddog yn dyfarnu a rhoi ei farn ef/hi ar ddilysrwydd y penderfyniad
    gydag unrhyw argymhellion ychwanegol ar gyfer y darparwr a’r
    ymgeisydd.
  • apelio’n uniongyrchol at Gadeirydd y Bwrdd Hyfforddi, ac mae’i
    benderfyniad ef yn derfynol.

 

MAES LLAFUR

 

 

2.1 CYMHWYSEDD TECHNEGOL
Rhaid i ymgeiswyr arddangos gallu yn y meysydd canlynol:

 

2.1.1 Offer

  • nodi offer priodol ar gyfer defnydd personol a grwp mewn lleoliad
    a roddir i chi
  • arddangos gallu i werthuso cyflwr yr offer a sicrhau gofal a chynnal
    a chadw priodol
  • arddangos gallu i ddefnyddio offer dringo mewn modd priodol.

 

2.1.2 Angorau
Dewis angorau diogel ac addas mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn cynnwys:

  • pigau a blociau
  • gwifrau a dyfeisiau camio
  • edau bollt, tagfeini a choed
  • Offer sefydlog

 

 

2.1.3 Clymu Bîle/ Cynnig Rhaff Ddiogel

  • clymu unigolyn ac eraill i’r rhaff
  • sefydlu systemau bîle gadarn i angorau sengl a lluosog
  • cysylltu’r unigolyn i’r system fîle
  • arddangos y defnydd o fîle uniongyrchol a bîle anuniongyrchol
  • defnyddio amrywiaeth o dechnegau/dyfeisiau bîle yn gymwys a
    dewis yr un mwyaf addas ar gyfer sefyllfa benodol
  • gosod systemau rhaffau top a gwaelod a dewis y system fwyaf addas
    ar gyfer sefyllfa benodol
  • trefnu rhaffau cyswllt a bîle briodol i ddiogelu dringwr cefnogi
  • dal cwympiau a chynnal gostyngiadau

 

 


2.1.4 Abseilio

  • abseilio heb ddefnyddio rhaff ddiogelwch
  • gosod abseiliau cadarn a rhai y gellir eu gollwng
  • defnyddio amrywiaeth o dechnegau a dyfeisiau ffrithiant gwahanol yn
    gymwys, a dewis yn addas ar gyfer sefyllfa benodol
  • datrys problemau abseilio cyffredin fel rhaffau wedi mynd yn glymau,
    cloi’n anfwriadol a symudiad pendil.
  • dewis safle abseilio addas gydag ystyriaeth tuag at
    - rhwyddineb esgyn
    - creigiau rhydd
    - effaith ar yr amgylchedd o’r adnodd ddringo
  • arddangos dulliau o ddiogelu un sy’n newydd i abseilio

 

 

 

2.1.5 Sgiliau Dringo Personol

  • dehongli arweinlyfrau’n effeithiol
  • dewis llwybrau sy'n addas ar gyfer gallu personol
  • symud yn hyderus ar ddringfeydd creigiau graddfa Caled
  • gosod rhaffau cyswllt sy’n addas ar gyfer diogelu’r arweinydd
  • arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r gadwyn ddiogelwch a ffactorau
    cwympo

 

 


2.1.6 Gwybodaeth Gefndirol

  • dangos peth dealltwriaeth o:
  • hanes, traddodiadau ac etheg dringo ar graig yn y DU
  • byrddau hyfforddi cenedlaethol a’r UKMTB
  • y system clwb a’r Cynghorau Mynydda
  • cystadleuaeth ddringo

 

2.2 YR AMGYLCHEDD DRINGO
Rhaid i ymgeiswyr arddangos eu bod yn gymwys yn y meysydd canlynol:

 

 

2.2.1 Mynediad

 
Mountain Leader Training Wales | Siabod Cottage | Capel Curig | Conwy | LL24 OES | 01690 720272 | info@mltw.org
corner   corner