corner corner
MLTW Mountain Leader Training Wales
 

Gwobr Rhediad Sengl (SPA)

Gwobr Rhediad Sengl (SPA)Mae’r wobr hon yn caniatáu i’r rhai sy’n ei dal i oruchwylio pobl ar greigiau rhediad sengl a waliau dringo. I ennill y wobr hon rydych angen mwy na dim ond sgiliau dringo personol da. Bydd ein Darparwyr Cwrs sydd wedi eu cymeradwyo yn eich dysgu chi am reolaeth ddiogel o gr_p, dan do ac yn yr awyr agored, ymddygiad dringo, cyfrifoldebau amgylcheddol a mwy. Byddwch yn dysgu sut i ddod yn oruchwyliwr effeithiol, gan annog eraill i fwynhau eu dringo yn ddiogel, tra hefyd yn gwella rhywfaint ar eich sgiliau dringo eich hun.

 


Gofynion Cofrestru:

  • Bod yn 18 mlwydd oed o leiaf ac isafswm o 12 mis o brofiad dringo.
  • Aelodaeth o glwb mynydda cyswllt neu gyngor mynydda (gallwch ymuno ar raddfa ostyngedig gan ddefnyddio’r ffurflen PDF yma)
  • Bod wedi arwain isafswm o 15 llwybr awyr agored o unrhyw raddfa, gan ddefnyddio gwarchod gan arweinydd (“leader placed protection).

Hyfforddiant
Mae’r cwrs hyfforddiant SPA yn parhau am o leiaf 20 awr ac yn aml yn cael ei redeg dros benwythnos dwys. Mae darparwyr yn rhedeg eu cyrsiau drwy’r DU ac yn ystod y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Os oes gennych lefel uchel iawn o brofiad gallwch wneud cais i gael eich eithrio o’r cwrs hyfforddi.


Atgyfnerthu
Ar ddiwedd eich cwrs bydd y staff hyfforddi yn datblygu cynllun gweithredu personol gyda chi a fydd yn eich arwain drwy’r rhan hwn o’r cynllun (fel arfer yn gyfnod o chwe mis o leiaf).


Asesiad
Mae’r asesiad yn parhau am o leiaf 20 awr ac yn cynnwys dringo personol, goruchwylio gr_p a defnyddio waliau dringo.
Mae’n rhaid i chi fod wedi arwain o leiaf 40 o ddringfeydd awyr agored gyda’r system gwarchod gan arweinydd. Mae’n rhaid i rai o’r rhain fod ar raddfa Caled o leiaf a dylent fod ar amrywiaeth o fathau o greigiau. Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau cwrs hyfforddi SPA neu fod wedi cael caniatâd i gael eich eithrio o’r hyfforddiant a bod â chymhwyster Cymorth Cyntaf dilys.

 

 

 

 


 
Mountain Leader Training Wales | Siabod Cottage | Capel Curig | Conwy | LL24 OES | 01690 720272 | info@mltw.org
corner   corner