Mae’r
wobr hon ar gyfer arweinwyr grwpiau cerdded mewn amodau hafaidd ar
dir bryniog heb fod yn fynyddig, a gaiff ei adnabod dan sawl enw
- ucheldir, rhostir, cors, bryn, gweundir neu dwyn. Mae ardaloedd
o’r fath yn aml yn dioddef o dywydd garw, ac felly bydd angen
elfen o hunangynhaliaeth a bydd y cynllun hwn yn rhoi cymorth i chi
ddatblygu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol.
Prosbectws
- Cyflwyniad
- Ystod y Cynllun
- Camau yn y Cynllun
- Cofrestru
- Hyfforddiant
- Cyfnod Atgyfnerthu
- Gofynion Cymorth Cyntaf
- Asesu a Dilysu
- Profiad Pellach
- Eithrio o’r Hyfforddiant
- Trefn Apelio
- Tir Addas ar gyfer y WGL
- Diffiniad o Ddiwrnod Cerdded Mynydd
fel sy’n berthnasol i’r
Wobr Arweinydd Grwp Cerdded
Maes Llafur
- Gallu Technegol
- Cerdded a Darganfod Llwybrau
- Dod o hyd i’r ffordd
- Peryglon a Threfniadau Argyfwng
- Offer
- Cyfrifoldebau’r Arweinydd
- Rheolaeth Grwp
- Y Profiad Dros Nos
- Mynediad
- Cadwraeth
- Gwybodaeth Amgylcheddol
- Tywydd
- Strwythur y Gweithgaredd
Prospectus
1 CYFLWYNIAD
Mae’r Wobr Arweinydd Gr_p Cerdded (WGL) yn wobr sydd wedi’i hachredu’n
genedlaethol ac sydd wedi ei datblygu gan Fwrdd Hyfforddi Mynydda’r Deyrnas
Unedig (UKMTB). Mae’r Gr_p Hyfforddi Arweinydd Mynydd (“The Mountain
Leader Training Board” -MLTB), Bwrdd Hyfforddi Mynydda Gogledd Iwerddon
(“Northern Ireland Mountain Training Board” - NIMTB, Bwrdd Hyfforddi
Arweinydd Mynydd yr Alban (“Scottish Mountain Leader Training Board” -
SMLTB) a Bwrdd Hyfforddi Arweinydd Mynydd Cymru (“Wales Mountain Leader
Training Board” -WMLTB), yn gweithredu’r cynllun hwn fel rhan o
Fframwaith Cenedlaethol o wobrau ar gyfer y rhai hynny sy’n arwain ac
yn rhoi hyfforddiant mewn cerdded mynyddoedd, dringo a mynydda.
Y WGL yw’r wobr sylfaenol ar gyfer arweinwyr grwpiau cerdded mynyddoedd
mewn tiroedd ac amodau diffiniedig. Lluniwyd y cynllun i gyd-fynd â’r
Wobr Arweinydd Mynydd (ML) hirsefydlog, sy’n hyfforddi arweinwyr gyda’r
sgiliau i arwain grwpiau cerdded ym mhob ardal fynyddig yn y DU a’r Iwerddon.
Mae’r WGL hefyd wedi ei fwriadu ar gyfer y rhai hynny sydd eisoes wedi
eu hyfforddi neu eu hachredu drwy’r ystod eang o gynlluniau lleol neu
drefniadol sydd ar gael. Mae pob un o wobrau’r UKMTB wedi eu cynllunio
ar gyfer y rhai hynny sydd ag ymrwymiad personol i’r gweithgaredd, ac
maent wedi eu sefydlu ar sail y gred mai profiad a dealltwriaeth bersonol o
beryglon hanfodol cerdded mynyddoedd a dringo yw’r ffyrdd gorau o fwyhau
diogelwch a synnwyr cyffredin.
2 YSTOD Y CYNLLUN
2.1 The WGL Award offers the opportunity to gain experience and demonstrate
technical competence in leading groups on hill walks in areas of the UK and
Ireland that fall within the technical definition outlined below. Such areas
may often be subject to hostile weather conditions and require an element of
self-sufficiency and this is reflected in the syllabus of this scheme (see
also Appendix I).
2.1 Mae’r Wobr WGL yn rhoi cyfle i ennill profiad ac i ddangos
cymhwysedd technegol mewn arwain grwpiau ar gerdded mynyddoedd
mewn ardaloedd yn y DU a’r Iwerddon sy’n dod o fewn
y diffiniad technegol a amlinellir isod. Gall ardaloedd o’r
fath fod yn cael tywydd garw ac mae’n bosibl y bydd angen
elfen o hunangynhaliaeth a chaiff hyn ei adlewyrchu ym maes llafur
y cynllun hwn (gweler yn ogystal Atodiad I).
Bydd Tir addas ar gyfer y WGL yn cwrdd â’r pedwar maen
prawf canlynol:
- tir agored, uchel neu ddiarffordd sydd heb ei amaethu a heb
fynyddoedd sy’n cael ei adnabod dan sawl enw - ucheldir,
rhostir, cors, gweundir, bryn neu dwyn
- ardaloedd sy’n cael
eu cau gan ffiniau daearyddol neu o wneuthuriad dyn sydd wedi
eu diffinio’n dda, megis ffyrdd dosbarthedig
(caiff ardaloedd sy’n uno gyda rhanbarthau mynyddig ac
sydd heb ffiniau wedi eu diffinio’n dda eu heithrio)
- ardaloedd
pellennig y mae modd dod ohonynt mewn ychydig oriau a dychwelyd
i loches neu ffordd hygyrch
- ardaloedd lle nad oes gofyn am symud
ar dir serth neu garegog (mewn sefyllfa sydd wedi neu heb ei
chynllunio)
2.2 Pan fydd gan arweinwyr neu eu cyflogwyr amheuon ynghylch ystod
gwobr a’i ffiniau dylent ymgynghori gydag Ysgrifennydd eu
Bwrdd Hyfforddi Mynydda cenedlaethol. Gall cynghorwr technegol
(yn achos y cynllun WGL Hyfforddwr Mynydda neu Dywysydd Mynydd
yw hwn) hefyd gynorthwyo arweinwyr gyda materion penodol megis
amodau tymhorol cyfraddau grwpiau a.y.b.
2.3 Nid yw cwblhau cwrs hyfforddi yn gymhwyster ynddo’i hun.
2.4 Cyfuniad o gymhwysedd technegol a sgiliau arweinyddiaeth yn
cael ei gefnogi gan ystod eang o brofiad yw sail rheolaeth gr_p
effeithiol. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â’r
holl elfennau hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r cyflogwr
neu’r awdurdod gweithredol yn y pen draw benderfynu a oes
gan arweinydd y nodweddion personol hynny sy’n angenrheidiol
er mwyn cymryd cyfrifoldeb dros gr_p arbennig o bobl.
2.5 Gall cael mynediad i amgylchedd yr ucheldir olygu rhyddid,
antur, prydferthwch a llonyddwch ond rhaid i’r manteision
hyn gael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach. Dylai arweinwyr
sy’n gweithio gy
Gwobr Arweinydd Grwp Cerdded pdf
Ffurflen Gofrestru ac Archebu Cyhoeddiadau pdf.
|