
Mae’r wobr hon ar gyfer arweinwyr grwpiau cerdded
mewn amodau hafaidd ar dir bryniog heb fod yn fynyddig a gaiff ei
adnabod dan sawl enw – ucheldir, rhostir, cors, bryn, gweundir
neu dwyn. Mae ardaloedd o’r fath yn aml yn cael tywydd garw
ac angen elfen o hunangynhaliaeth a bydd y cynllun hwn yn eich cynorthwyo
i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol.
Gofynion Cofrestru:
- Bod yn 18 mlwydd oed o leiaf
ac isafswm o 12 mis o brofiad o gerdded mynyddoedd
- Aelodaeth o
glwb mynydda cyswllt neu gyngor mynydda (gallwch ymuno ar raddfa
ostyngedig gan ddefnyddio’r ffurflen
PDF yma).
- Diddordeb mewn arwain grwpiau.
Hyfforddiant
Er mwyn mynychu cwrs hyfforddiant mae’n rhaid i chi fod wedi cofnodi
o leiaf 20 diwrnod o gerdded mynyddoedd. Mae darparwyr yn rhedeg cyrsiau
drwy ardaloedd ucheldir y DU yn ystod y rhan fwyaf o’r flwyddyn mewn
amrywiaeth o ffurfiau o ran y cwrs, sy’n cynnwys isafswm o 30 awr o
amser cyswllt. Mae sgiliau dod o hyd i’r ffordd, rheolaeth gr_p, ymwybyddiaeth
amgylcheddol a’r profiad dros nos yn cael eu cynnwys yn y cwrs (nid
yw gwersylla yn y gwyllt yn rhan o’r cwrs). Os oes gennych lefel uchel
dros ben o brofiad gallwch wneud cais i gael eich eithrio o’r cwrs
hyfforddiant. Mae ymgeiswyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant ML yn barod yn
cael eu heithrio o’r hyfforddiant WGL mor bell â’u bod
wedi cofrestru ar y cynllun WGL cyn mynychu’r asesiad.
Atgyfnerthu
Ar ddiwedd eich cwrs bydd y staff hyfforddi yn datblygu cynllun gweithredu
personol gyda chi a fydd yn eich arwain drwy’r cam hwn o’r
cynllun (fel arfer yn gyfnod o chwe mis o leiaf)
Asesu
Mae gan gyrsiau asesu o leiaf 30 awr o amser cyswllt. Mae’n rhaid
i chi fod wedi cwblhau isafswm o 40 o ddiwrnodiau o gerdded mynyddoedd a
bod â chymhwyster Cymorth Cyntaf dilys. Yn ogystal, mae’n rhaid
i chi fod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant WGL neu fod wedi cael eich eithrio
o’r hyfforddiant. Gall ymgeiswyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant ML
gymryd asesiad WGL mor bell â’u bod wedi cofrestru ar gyfer WGL.
ML ta WGL?
Mae ML yn golygu gwersylla yn y gwyllt, symud ar dir serth a pheth
gwaith â rhaff, tra nad yw WGL yn cynnwys tir serth neu greigiog
ond yn cynnwys gwersylla mewn dyffrynnoedd a phrofiad dros nos.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr asesiad WGL lywio gyda’r un
cywirdeb ag ar ML, ond dros dir “corsiog”. Mae tir
WGL wedi ei ddiffinio’n glir gyda ffiniau amlwg, megis ffyrdd
ac arfordiroedd a gellir adnabod ac osgoi unrhyw beryglon oddi
mewn iddo. .
|